Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(119)v6

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) (15 munud) 

NDM5184 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Guildford ar y Trefniadau ar gyfer Gweithredu Rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020 (30 munud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Rhagor o Brentisiaethau yng Nghymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:  Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid: Fframwaith Adfywio Newydd i Gymru (30 munud)

</AI6>

<AI7>

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso'r Drefn - Ehangu Busnes y Fferm (30 munud)

</AI7>

<AI8>

8. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 (15 munud) 

NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI8>

<AI9>

9. Dadl: Ansawdd yn GIG Cymru - sicrhau dysgu o Adroddiad Francis (60 munud) 

NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford (Adroddiad Francis) drwy ddilyn y ddolen hon:

http://www.midstaffspublicinquiry.com/report

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl ‘Swydd Stafford’.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryderon difrifol a gododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr arolygiadau urddas a gofal hanfodol a gynhaliwyd yn ein hysbytai.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithredu argymhellion Adroddiad Francis sy’n berthnasol i’n GIG ni;

(b) ystyried creu gwefan “fyYsbytylleol” tebyg i wefan “fyYsgolleol” i sicrhau bod pob ysbyty'n darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw am berfformiad; ac

(c) cyflwyno deddfwriaeth i wneud methiant i ddarparu adroddiad cywir am yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth claf yn drosedd.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y potensial i bwysau ariannol yn y GIG yng Nghymru danseilio’r awydd i ddarparu gofal diogel a thosturiol.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryderon a fynegwyd yn adroddiad Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Swydd Stafford o ran lefelau staffio, ac

a) yn gresynu bod pryderon ynghylch cywirdeb a chysondeb data ar lefelau staffio hefyd wedi’u canfod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad diweddar ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (Chwefror 2013);

b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i sicrhau nad yw staff sy’n absennol am gyfnod hir, neu wedi eu hatal o’u gwaith, yn cael eu cynnwys mewn rotas staffio yn y dyfodol oni ddisgwylir iddynt ddychwelyd i’w gwaith yn fuan iawn.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003 i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’

Gellir gweld yr Hanfodion Gofal drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.wales.nhs.uk/documents/booklet-e.pdf

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion, ac  Iawn) (Cymru) 2011 i gynnwys gofyniad i’r hyn a ddysgir o ganlyniad i gwynion gael ei nodi, ei ledaenu a’i roi ar waith yn effeithiol gan roi gwybod i’r achwynydd ac i’r cyhoedd.

Gellir gweld Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=932&id=170726&pid=50738

</AI9>

<AI10>

Cyfnod Pleidleisio

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 13 Mawrth 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>